Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog


Lleoliad:

Lleoliad Allanol

Dyddiad: Dydd Gwener, 27 Hydref 2017

Amser: 10.00 - 12.35
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4690


Canolfan Cwmbrân ar gyfer Pobl Ifanc

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Ann Jones AC (Cadeirydd)

John Griffiths AC

Huw Irranca-Davies AC

Dai Lloyd AC

Lynne Neagle AC

Nick Ramsay AC

David Rees AC

David J Rowlands AC

Tystion:

Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru

Karen Cornish, Llywodraeth Cymru

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Kath Thomas (Ail Glerc)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 476KB) Gweld fel HTML (270KB)

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.  Cafwyd ymddiheuriadau gan y canlynol:

Jayne Bryant; Russell George; Mike Hedges; Bethan Jenkins a Simon Thomas.

</AI2>

<AI3>

2       Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - Hawliau Plant a Phobl Ifanc

2.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Prif Weinidog o ran dull Llywodraeth Cymru o ymgorffori hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru yn ei deddfwriaeth, ei pholisïau a'i harferion.

 

2.2 Cytunodd y Prif Weinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth neu eglurhad i'r Pwyllgor ynghylch y canlynol:

·         Sefydlu mecanwaith ffurfiol, fel Pwyllgor Cynghori Pobl Ifanc, i wrando ar farn plant a phobl ifanc fel rhan o'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd;

·         Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarpariaeth mynediad agored cyffredinol i bobl ifanc, ledled Cymru.

 

2.3 Ymrwymodd y Cadeirydd i ddarparu unrhyw enghreifftiau i'r Prif Weinidog o'r anawsterau y mae pobl ifanc yn eu cael wrth gael lleoliadau profiad gwaith, a gafwyd drwy waith ymgysylltu y Pwyllgor.

</AI3>

<AI4>

3       Sesiwn i Graffu ar Waith y Gweinidog - Materion Amserol

Gofynnodd yr Aelodau nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog ar faterion amserol.

</AI4>

<AI5>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Derbyniwyd y cynnig.

</AI5>

<AI6>

5       Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion.

</AI6>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>